Pwyllgor Menter a Busnes 20 Hydref 2011
Busnes, Menter, Technoleg a Sgiliau
Cynigion Cyllideb Ddrafft y Cronfeydd Strwythurol ar gyfer 2012/13 i 2014/15
Cyflwyniad
1.
Mae’r papur
hwn yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar
gynigion cyllideb ddrafft rhaglenni (a gyhoeddwyd ar 4 Hydref 2011)
a luniwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), yn rhinwedd
ei rôl fel Awdurdod Rheoli ac Ardystio rhaglenni’r
Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.
2.
Mae WEFO yn gyfrifol
am reoli sut caiff rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd eu
gweithredu, rhaglenni sy’n werth ychydig o dan £2
biliwn o gronfeydd yr UE dros y cyfnod saith mlynedd
2007–2013. Cyfanswm yr arian a fuddsoddir yw tua £3.2bn
(gan gynnwys arian cyfatebol). Mae hyn yn cynnwys rhaglenni
Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a’r rhaglenni
Cystadleurwydd llai yn y Dwyrain. Mae Cymru hefyd yn cymryd rhan
mewn nifer o raglenni cydweithredu tiriogaethol, gan gynnwys
rhaglen drawsffiniol rhwng Cymru ac Iwerddon a reolir gan
Awdurdodau Iwerddon. Mae WEFO yn gyfrifol hefyd am reoli cau
rhaglenni 2000–2006 ac am arwain sut y datblygir unrhyw
raglenni ar gyfer 2014–2020.
3.
Mae’r tabl
ariannol cryno canlynol yn dangos yr effaith gyffredinol ar
gyllideb sylfaenol WEFO ar gyfer rhaglenni:
Gweithredu |
Categori Gwariant |
Cyllideb Atodol 2011/12 £’000 |
Newid |
Cyllideb Arfaethedig 2012/13 £’000 |
Cynlluniau Dangosol 2013/14 £’000 |
Cynlluniau Dangosol 2014/15 £’000 |
WEFO |
Rheoli Gweithredu Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru |
1,522 |
0 |
1,522 |
1,522 |
1,522 |
CYFANSWM |
1,522 |
0 |
1,522 |
1,522 |
1,522 |
Blaenoriaethau Strategol
4. Bydd WEFO yn parhau i ddatblygu, rheoli, monitro ac adrodd ar sut gweithredir rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru a helpu i sicrhau bod rhaglenni a phrosiectau Cronfeydd Strwythurol yr UE yn gydnaws â pholisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru a’r UE.
Perfformiad rhaglenni 2007–2013
5.
Bedair
blynedd ar ôl dechrau’r rhaglenni, mae WEFO wedi
ymrwymo £1.55 biliwn (81% o gyfanswm y cronfeydd UE sydd ar
gael) i 236 o brosiectau, sef cyfanswm buddsoddiad o fwy na
£3.1 biliwn yng Nghymru.
6.
Dyma
ffigurau’r ymrwymiad i’r rhaglenni:
Rhaglen |
Cyfanswm cost y prosiect (£m) |
Cyfran (%) |
Cronfeydd yr UE (£m) |
Cyfran (%) |
Cydgyfeirio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) |
1,676.9 |
90.0 |
522.7 |
76.0 |
Cystadleurwydd Cronfa Datblygu Rhanbarthol (ERDF) |
146.6 |
108.0 |
34.9 |
72.0 |
Cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) |
1,168.1 |
105.0 |
530.9 |
89.0 |
Cystadleurwydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) |
150.2 |
111.0 |
47.2 |
98.0 |
Cyfanswm |
3,141.8 |
97.0 |
1,552.7 |
81.0 |
7.
Mae’r data
(sydd hefyd ar gael yn www.wefo.cymru.gov.uk ) yn y
tabl uchod ac mewn rhannau eraill o’r papur yn gywir ar 30
Medi 2011 oni nodir yn wahanol.
8.
Mae
lefel gyffredinol cronfeydd yr UE a ymrwymwyd hyd yma ar draws y
pedair rhaglen yn cymharu’n dda iawn â’r pwynt
cyfatebol yn rhaglenni 2000-2006. At hynny, gyda digon o brosiectau
ar y gweill, rydym ar y trywydd iawn i ymrwymo 90% o gronfeydd yr
UE erbyn diwedd Mawrth 2012.
9. Mae tua £760 miliwn (24%) o gyfanswm buddsoddiad y prosiect (gan gynnwys arian cyfatebol) yn cefnogi busnesau (gan gynnwys Ymchwil a Datblygu ac Arloesi, TGCh a Chyllid Busnes) ac mae £1.3bn (41%) yn helpu pobl i gael gwaith a gwella eu sgiliau. At hyn, mae dros £560m yn helpu i adfywio cymunedau a £485m yn helpu i wella’r amgylchedd a thrafnidiaeth gynaliadwy.
10.Mae
sefydliadau yng Nghymru yn cymryd rhan mewn 69 o brosiectau
cydweithredu tiriogaethol (gan gynnwys rhaglen drawsffiniol
Cymru/Iwerddon) sy’n werth tua £96m o ERDF (mae
partneriaid Cymru yn elwa ar £29m o ERDF).
11.Mae manylion cyhoeddiadau diweddar am brosiectau ar gael ar wefan WEFO www.wefo.cymru.gov.uk
Yr hyn a gyflawnwyd gan brosiectau’r UE
12.Mae
prosiectau’r UE eisoes wedi helpu 236,500 o bobl, ac mae
71,000 ohonynt wedi cael cymorth i ennill cymwysterau a bron i
29,000 i gael gwaith. Crëwyd dros 8,600 o swyddi (gros) a bron
i 1,800 o fusnesau. Mae hyn yn seiliedig ar y ceisiadau am arian a
gyflwynwyd (bob chwarter yn gyffredinol) gan brosiectau ac a
awdurdodwyd gan WEFO. Bydd hyn yn cynyddu wrth i ragor o brosiectau
fynd rhagddynt ac adrodd ar ganlyniadau i WEFO.
13.Mae WEFO yn disgwyl
cyrraedd y targedau cyffredinol y cytunwyd arnynt gyda’r
Comisiwn, a rhagori arnynt mewn rhai achosion. Bydd manteision y
rhaglenni a’r prosiectau yn parhau ar ôl i’r
Cronfeydd gael eu gwario – er enghraifft drwy gronfeydd
cylchol (ee JEREMIE a JESSICA), neu drwy’r buddsoddiad
hirdymor mewn pobl drwy hyfforddiant a datblygu sgiliau.
Gwariant rhaglenni
14.Mae cyfanswm y
gwariant ar brosiectau’r UE yn fwy na £1bn (£478m
- cronfeydd yr UE; 25% o gyfanswm dyraniad cronfeydd yr UE), ar
sail ceisiadau a gyflwynwyd gan brosiectau ac a dalwyd gan WEFO. Ar
sail y rhagolygon cyfredol, bydd hyn yn cynyddu i 30% erbyn diwedd
2011 ac i 34% erbyn diwedd y flwyddyn ariannol
gyfredol.
15.Cyrhaeddwyd pob un o
dargedau’r Comisiwn o ran gwariant rhaglenni (N+2) gan
gynnwys targedau diwedd blwyddyn galendr eleni ar gyfer y pedair
rhaglen, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd anodd a’r gyfradd
gyfnewid amrywiol gyda’r Ewro.
Lefel yr ymgysylltiad ar draws sectorau
16. O gofio natur strategol gweithredu’r Rhaglenni, mae prosiectau a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn gyfran sylweddol o’r prosiectau a gymeradwywyd hyd yma (94 o 236). Datblygwyd y prosiectau hyn mewn partneriaeth a chânt eu gweithredu drwy drefniadau caffael i raddau helaeth. Mae’r prosiectau eraill yn cael eu harwain gan sefydliadau eraill, gan gynnwys 54 o brosiectau Awdurdodau Lleol, 35 o’r trydydd sector, 10 o’r sector preifat a 28 o’r sector Addysg Uwch/Addysg Bellach.
17.Yn ogystal â
phrif noddwyr neu gyd-noddwyr, neu rai sy’n elwa ar
brosiectau, mae sectorau hefyd yn elwa fel gweithredwyr prosiectau,
lle amcangyfrifir bod cyfanswm cost gweithgareddau caffael wrth
weithredu prosiectau a gymeradwywyd yn rhyw £1bn. Mae
prosiectau a gymeradwywyd sydd wedi cwblhau eu hymarferion caffael
wedi dyfarnu contractau gwerth £630m i sefydliadau,
£365m i’r sector preifat a £90m i’r trydydd
sector.
Cau rhaglenni 2000–2006
18.Cyflwynwyd adroddiadau terfynol
ar raglenni 2000–2006 i’r Comisiwn yn 2010; bydd y
gweithdrefnau cau ar gyfer rhaglenni 2000–2006 yn parhau drwy
gydol 2011/2012. Mae WEFO eisoes wedi derbyn cadarnhad gan y CE bod
rhaglenni LEADER+ ac URBAN II yn cau yn
ffurfiol.
19.Er na fyddwn yn
gwybod beth fydd gwariant terfynol rhaglenni 2000–2006 nes
bydd y gweithdrefnau cau rhwng Cymru a’r CE wedi’u
cwblhau, rydym yn hyderus y bydd ein perfformiad yn sylweddol uwch
na chyfartaledd y DU ac yn gosod Cymru ymhlith y rhanbarthau
sy’n perfformio orau yn yr UE.
Datblygu rhaglenni 2014–2020
20.Mae’r paratoadau ar gyfer
datblygu, mewn partneriaeth, unrhyw raglenni Ewropeaidd i Gymru ar
y gweill a bydd yn flaenoriaeth allweddol i waith WEFO o hydref
2011 ymlaen. Amlinellodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd,
Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd flaenoriaethau Llywodraeth Cymru
o ran rhaglenni Ewropeaidd i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar 22
Medi. Fel rhan o hyn, pwysleisiodd y Gweinidog yr angen am i
raglenni’r Cronfeydd Strwythurol, Datblygu Gwledig a
Physgodfeydd gydweithio’n agosach i helpu i weithredu Rhaglen
Lywodraethu Llywodraeth Cymru o fewn fframwaith strategaeth Ewrop
2020 ar gyfer twf ar sail gwybodaeth, sy’n gynaliadwy ac yn
gynhwysol.
21.I helpu i roi cyngor i
Lywodraeth Cymru ar sut gellir manteisio i’r eithaf ar
raglenni Ewropeaidd yn y dyfodol er budd Cymru, mae Fforwm
Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020 wedi’i
sefydlu, dan gadeiryddiaeth Mark Drakeford AC, Cadeirydd Pwyllgor
Monitro Rhaglenni presennol Cymru Gyfan.
22.Cyfarfu’r Fforwm,
sy’n cynnwys arbenigwyr o bob rhan o’r sectorau preifat
a chyhoeddus a’r trydydd sector, am y tro cyntaf ar 27 Medi,
lle cafodd yr aelodau wybodaeth am y cyd-destun economaidd ac o ran
polisi ar gyfer datblygu rhaglenni newydd a’r cynlluniau
ehangach ar gyfer gwaith partneriaeth. Bydd hyn yn golygu cyfnod o
ystyried yn nes ymlaen yn y flwyddyn i roi cyfle i bartneriaid
Cymru ddylanwadu ar ddatblygiad strategaeth y rhaglenni.
23.Ar 6 Hydref, cyhoeddodd y
Comisiwn ei gynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer Polisi
Cydlyniant ar gyfer y cyfnod 2014-2020, sy’n nodi dechrau
cyfnod o negodi manwl rhwng Aelod-wladwriaethau a’r CE.
Byddwn yn ceisio sicrhau bod y DU, wrth negodi, yn rhoi ystyriaeth
lawn i anghenion Cymru.
Rheoli Cronfeydd Strwythurol
24.Mae’r gyllideb
yn rhoi arian cyfatebol i brosiectau Cymorth Technegol WEFO o dan
raglenni 2007-13. Caiff ei defnyddio i fodloni gofynion rheoliadol
WEFO o dan reoliadau’r CE i gynnal gweithgareddau fel
gwerthuso rhaglenni, rhoi gwybodaeth a chyhoeddusrwydd, a
threfniadau ar gyfer Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru
Gyfan.
25.Er bod
rheoliadau’r CE yn caniatáu Cyngor Technegol hyd at 4%
o werth cyffredinol y rhaglen, dim ond 1.5% o raglenni 2007-13 a
ddefnyddiwyd gan WEFO i’r diben hwnnw. Yn sgil newid yn
rhaglen Gydgyfeirio’r ERDF a gymeradwywyd gan y CE ym mis
Mawrth 2011, trosglwyddwyd £10m mewn arbedion o Gymorth
Technegol i Flaenoriaeth 5, Creu Cymunedau
Cynaliadwy.
26.Er bod y rhaglenni
cyfredol yn debyg, o ran lefel gwaith, i raglenni cyfnod 2000-2006,
mae WEFO wedi lleihau ei staff o ryw 182 yn 2005 i 145 o fis Medi
2011. I hwyluso’r sefyllfa, mae’r systemau wedi’u
gwella’n sylweddol, ac mae WEFO Ar-lein, sef system rheoli a
thalu grantiau WEFO, wedi’i gydnabod gan y CE fel model i
Aelod-wladwriaethau eraill, ac mae’n cael ei ddefnyddio fel
meincnod i fesur pob system sy’n delio â chyllid
strwythurol ar draws y CE.
27.Caiff Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan a Gweinidogion wybodaeth reolaidd am hynt gwahanol flaenoriaethau’r rhaglenni. Ceir mwy o fanylion am berfformiad a chanlyniadau’r Rhaglenni ar wefan WEFO www.wefo.cymru.gov.uk.